Awgrymiadau ar gyfer plant iach

Dyma ychydig wybodaeth am sut i ddatblygu arferion iach a chyngor ar sut i wneud penderfyniadau gwell ar eich cyfer chi a'ch plentyn.

healthy children

Bwyta'n iach 

Mae arferion a phatrymau bwyta yn ffurfio yn ystod blynyddoedd cyntaf ein bywyd felly mae'n bwysig ein bod ni'n cyflwyno plant i fwydydd iach cyn gynted â phosibl. Mae'r hyn rydyn ni'n ei fwyta yn effeithio ar ein hiechyd ni ar bob cam o'n bywydau. Mae modd i ni eich cyfeirio chi at gymorth sydd ar gael i deuluoedd yn RhCT i'ch helpu chi a'ch plentyn i fwyta'n fwy iach. 

HMae gan Henry fideo gwych yn esbonio sut i annog bwyta’n iach o'r cychwyn cyntaf. 


Mae syniadau am ryseitiau brecwast, byrbrydau, prif brydau, pwdinau a phecynnau bwyd ar gael ar wefan Henry. Mae syniadau am brydau bwyd i'r teulu gyfan yn ogystal â syniadau am fwydydd i'w newid, rhestrau siopa a gwybodaeth am sut i gael eich plentyn i gymryd rhan mewn prydau bwyd hefyd ar gael ar wefan Pob Plentyn Cymru. 

Bwyd fforddiadwy 

Os ydych chi'n fwy na 10 wythnos yn feichiog neu â phlentyn sy'n iau na 4 oed, mae'n bosibl eich bod chi'n gymwys i dderbyn cymorth i dalu am fwyd iach a llaeth. Bwriwch olwg ar wefan y Cynllun Cychwyn Iach am ragor o wybodaeth.

Os nad ydych chi'n gallu fforddio nwyddau hanfodol efallai bod modd i chi gael mynediad at fanc bwyd. Gwiriwch a oes banc bwyd yn eich ardal leol. 

Dannedd iach 

Yn debyg i arferion bwyta, caiff arferion hylendid y geg eu ffurfio yn y blynyddoedd cynnar. Dylech chi sefydlu arferion brwsio dannedd cyn gynted â bod eich plentyn wedi cael ei ddant cyntaf. Trwy wneud hyn byddwch chi'n cynyddu'r tebygrwydd o ffurfio arferion da ac yn helpu eu hiechyd yn gyffredinol. 

Dyma rai argymhellion rhianta gan Henry ar gyfer dannedd iach. 

Mae'r Cynllun Gwên yn cynnig cyngor ar frwsio dannedd ac ymweliadau â'r deintydd i rieni/gwarcheidwaid.   

Cadw'n heini 

Mae bod yn fywiog ac yn heini yn wych ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol eich plentyn. Mae gennym ni rai syniadau am sut i fyw'n sionc gyda'ch plentyn