Ar Hyd y Lle

Mae nifer o fuddion i'w cael o ran mynd y tu allan i'ch cartref. Nid yn unig o ran newid golygfa - mae modd iddo'ch helpu chi i gysylltu â phobl a lleoedd lleol a chynyddu eich ymdeimlad o berthyn o fewn y gymuned. Gall hyn fod yn bwysig iawn i chi, ac i iechyd meddwl eich plentyn. 

out and aboutDyma rai syniadau am bethau mae modd i chi a'ch teulu eu gwneud yn Rhondda Cynon Taf. 

Cylchoedd chwarae 

Dyma ffordd wych i chi a'ch plentyn gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Maen nhw hefyd yn darparu man lle mae modd i'ch plentyn fwynhau gweithgareddau newydd, dysgu pethau newydd ac ennill sgiliau newydd. Dewch o hyd i gylchoedd chwarae yn eich ardal chi. 

Cynlluniau Chwarae 

Mae pob plentyn a pherson ifanc rhwng 5 a 14 oed sy’n byw yn RhCT yn gymwys i fynd i'n cynlluniau chwarae cymeradwy unwaith y bydd y rhiant neu’r gwarcheidwad wedi llenwi a llofnodi’r ffurflen cadw lle.

Mannau i ymweld â nhw 

Drwy dreulio amser yn yr awyr agored, mae modd gwella cryfder a chydsymudiad eich plentyn a hyd yn oed ei system imiwnedd. Mae plant sy'n treulio mwy o amser yn chwarae yn yr awyr agored yn llai tebygol o brofi problemau sy'n gysylltiedig â phwysau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae gan RCT nifer o atyniadau, gweithgareddau a phethau i ysbrydoli anturiaethau. Dewch o hyd i bethau i'w gwneud yn eich ardal chi.

Llyfrgelloedd 

Mae Llyfrgelloedd RhCT yn fannau cyhoeddus sydd nid yn unig yn eich helpu chi i gael mynediad at wybodaeth ond hefyd yn cynnig gweithgareddau i annog creadigrwydd. Wrth ymuno â llyfrgell cewch chi fynediad i lyfrau ac e-lyfrau, DVDs, CDs, offer TG a'r rhyngrwyd ynghyd ag achlysuron amrywiol. Mae modd i chi a'ch plentyn ddod yn aelodau. Dewch o hyd i wybodaeth am yr hyn sydd gan eich llyfrgell leol i'w gynnig.  

Ymarfer Corff a Chwaraeon 

Dewch yn fwy heini a gwella eich iechyd corfforol a meddyliol. Yn ogystal â bod o fudd i oedolion, mae bod yn gorfforol heini yn bwysig i ddatblygiad iach plant hefyd. Dewch o hyd i weithgareddau ar gyfer pob grŵp oedran yn RhCT.

Achlysuron llawn hwyl i'r teulu 

Mae nifer o achlysuron llawn hwyl i'r teulu yn cael eu cynnal yn RhCT drwy gydol y flwyddyn. Mae modd i'r rhain gynnig amser i deuluoedd ddod at ei gilydd a mwynhau gweithgareddau llawn hwyl gyda'i gilydd mewn ardaloedd lleol

Dewch o hyd i achlysuron yn RhCT 

Beth am gael fwy o hwyl ar eich trip drwy chwarae gemau, er enghraifft helfa drysor? Mae helfa sborion lliwiau'r enfys yn ffordd wych o archwilio pethau yn eich cartref neu ar hyd y lle. 

Pethau sydd eu hangen: 

  • Cerdyn hela sborion neu ddarn o bapur 
  • Pen ysgrifennu 
  • Bag
  • Argraffydd (Dewisol) 

Sut i fynd ati: 

  1. Ewch ati i greu eich helfa sborion eich hunain neu argraffwch un oddi ar y rhyngrwyd. 
  2. Ewch â bag a phen gyda chi pan fyddwch chi'n mynd ar yr helfa a rhowch bopeth rydych chi'n ei gasglu yn y bag (efallai y bydd angen oedolyn i fynd gyda'r plentyn) 
  3. Mae modd i chi wneud hyn dan do neu'r tu allan 

Beth am roi cynnig ar rywbeth gwahanol, megis helfa sborion siapiau? 

Ar gyfer plant hŷn, ydych chi wedi rhoi cynnig ar Geogelcio? Mae modd i chi olrhain Geogelciau yn eich ardal leol (mae miliynau ohonyn nhw ledled y byd) gan ddefnyddio'r ap Geogelcio. Dysgwch ragor am Geogelcio trwy wylio'r fideo isod. 

Syniadau ar gyfer cadw'n ddiogel y tu allan 

Pan fyddwch chi allan gyda'ch plant, mae'n bwysig eu cadw'n ddiogel. Dyma rai awgrymiadau ar sut i roi tawelwch meddwl i chi pan fyddwch chi allan gyda'ch gilydd: 

  • Cadwch eich plentyn o fewn golwg bob amser. 
  • Ystyriwch ddefnyddio awenau plant bach ar gyfer plant iau. 
  • Cytunwch ar fan cyfarfod os byddwch chi i gyd yn cael eich gwahanu. 
  • Peidiwch â gadael i'ch plentyn ddefnyddio toiledau cyhoeddus ar ei ben ei hun. 
  • Dywedwch wrth eich plentyn am beidio byth â siarad â rhywun nad yw'n ei adnabod. 
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn ymwybodol bod modd iddo siarad â chi os yw'n teimlo'n anniogel. 

Os oes caniatâd gan eich plentyn i fynd allan ar ei ben ei hun, mae modd i chi roi rhai awgrymiadau iddo i'w helpu i gadw ei hunan yn ddiogel: 

Pobl Ifainc yn eu Harddegau 

  • Dywedwch wrthyn nhw i gadw'n effro. Os ydyn nhw'n gwisgo clustffonau i wrando ar gerddoriaeth, dywedwch wrthyn nhw i wneud yn siŵr bod modd iddyn nhw glywed beth sy'n digwydd o'u cwmpas o hyd. 
  • Dywedwch wrthyn nhw i gadw ar ffyrdd sydd wedi'u goleuo'n dda ac osgoi ardaloedd unig. 
  • Os ydyn nhw'n meddwl bod rhywun yn eu dilyn, dywedwch wrthyn nhw i fynd i le prysur fel siop a dweud wrth rywun. 
  • Dywedwch wrthyn nhw i feddwl am gario ffôn, chwiban neu larwm. 
  • Os oes ganddyn nhw ffôn neu bethau gwerthfawr, dywedwch wrthyn nhw i'w cadw nhw allan o'r golwg. 
  • Ddylen nhw byth â chario arfau. 
  • Dywedwch wrthyn nhw i roi gwybod i rywun os ydyn nhw'n meddwl eu bod nhw'n anniogel pan fyddan nhw'n mynd allan. 
  • Dywedwch wrthyn nhw i ffonio 999 os ydyn nhw, neu unrhyw un o'u cwmpas, wedi brifo neu mewn perygl. 

Plant iau. 

  • Dywedwch wrthyn nhw am ofyn i chi cyn mynd allan i chwarae ar eu pen eu hunain. 
  • Dywedwch wrthyn nhw i beidio â siarad â phobl dydyn nhw ddim yn eu hadnabod. 
  • Dywedwch wrthyn nhw i beidio â mynd i unrhyw le gyda phobl ddieithr. 
  • Dywedwch wrthyn nhw am roi gwybod i chi os bydd rhywun dieithr yn ceisio siarad â nhw neu os ydyn nhw'n teimlo'n anniogel y tu allan. 
  • Os ydyn nhw'n mynd ar goll, dywedwch wrthyn nhw bod modd iddyn nhw ofyn am help gan rywun maen nhw'n ymddiried ynddo. Efallai mai gweithiwr siop, swyddog heddlu neu deulu cyfagos fydd hyn. 
  • Dysgwch eu cyfeiriad a'ch rhif ffôn iddyn nhw cyn iddyn nhw adael y tŷ. 
  • Dywedwch wrthyn nhw i ffonio 999 os ydyn nhw, neu unrhyw un o'u cwmpas wedi brifo neu mewn perygl. 

Dyma ychydig o gyngor i blant ynglŷn â chysylltu â'r gwasanaethau brys

Tudalennau yn yr Adran Hon