Awgrymiadau i feithrin sgiliau siarad

Dyma rai awgrymiadau ar sut i helpu datblygiad iaith a lleferydd eich plentyn. 

tips_for_talking_optimised

  1. Chwarae'n rhydd bob dydd!  
    Oeddech chi'n gwybod bod plant yn dysgu siarad wrth chwarae? Mae chwarae yn gyfle iddyn nhw ddysgu geiriau a chael profiadau newydd. Trwy chwarae, rhigymau a straeon, mae arferion bob dydd yn cael eu trawsnewid o fod yn ddiflas i rywbeth pleserus. 
  2. Diffodd y sgrin a rho fi ar dy lin!  
    Oeddech chi'n gwybod bod plant yn dysgu geiriau yn well o glywed pobl yn siarad wyneb yn wyneb yn hytrach nag ar y teledu? Gall sŵn teledu yn y cefndir atal plant rhag datblygu sgiliau canolbwyntio. 
  3. Cân fach dwt wrth newid fy nghlwt, neu unrhyw bryd!   
    Oeddech chi'n gwybod bod caneuon a rhigymau yn helpu sgiliau lleferydd babanod? Daw 95% o leferydd plant o glywed caneuon a rhigymau. 
  4. Darllen stori i’m diddori!  
    Oeddech chi'n gwybod bod plant yn dysgu llawer o eiriau newydd trwy lyfrau: po fwyaf o eiriau rwy'n eu hadnabod, y gorau y byddaf i'n ei wneud yn yr ysgol? Mae gan dadau rôl sylweddol wrth ddarllen i'w plant a chwarae gyda nhw. Mae lluniau'n rhan bwysig o lyfrau hefyd - byddan nhw'n helpu eich babi i bwyntio a gwneud cysylltiadau. Wrth ddysgu darllen mae modd i chi gael mwynhad bob amser o rannu llyfrau. Trwy rannu llyfrau gyda'ch gilydd, mae'r broses ddysgu eisoes yn dechrau. Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau darllen i'ch babi ac i sgwrsio am y lluniau neu'r stori. 
  5. Edrych arnat ti sydd orau i mi! 
    Oeddech chi'n gwybod bod babanod yn edrych ar eich wyneb er mwyn ceisio deall beth sy'n digwydd? Maen nhw wedyn yn cysylltu'r geiriau rydych chi'n eu dweud gyda'ch ystumiau. 
  6. Dim dymi’n rhy hir, imi gael siarad yn glir!   
    Oeddech chi'n gwybod na fydd modd i chi glywed beth rwy'n ei ddweud os oes dymi yn fy ngheg? Does dim modd i fi ymarfer siarad os oes rhywbeth yn fy ngheg. 
  7. Gwna dy waith cyn dechrau'r daith! 
    Oeddech chi'n gwybod bod babanod angen i ni siarad â nhw o'r cychwyn cyntaf? Bod yn rhiant yw'r swydd fwyaf anodd ac heriol a'r swydd bwysicaf ym mywyd eich plentyn. Or crud, mae ymennydd babanod fel sbwng, ac maen nhw'n dysgu geiriau, sgiliau a phrofiadau a fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol. 
  8. Siarad sydd raid â hynny'n ddi-baid!   
    Oeddech chi'n gwybod taw siarad sydd wrth wraidd dysgu'ch plentyn? Mae siarad a gwrando ar eraill yn ei helpu i ddysgu geiriau newydd. 
  9. Siarad sydd raid â hynny'n ddi-baid!   
    O
    eddech chi'n gwybod taw siarad sydd wrth wraidd dysgu'ch plentyn? Mae siarad a gwrando ar eraill yn ei helpu i ddysgu geiriau newydd. 

Dolenni defnyddiol: