Mae'n debyg mai bod yn rhiant yw'r swydd anoddaf yn y byd. Dyma rai awgrymiadau magu plant gwych gan ein harbenigwyr ar sut i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'ch plentyn a sut i ofalu amdanoch chi'ch hun hefyd. Os oes gennych chi bryderon sylweddol am eich plentyn mae gan y GIG awgrymiadau ar sut i adnabod beth sydd o'i le, sut i siarad â nhw a sut i'w cefnogi. Yn yr achos yma mae modd i chi siarad â'ch Meddyg Teulu neu Ymwelydd Iechyd i gael cyngor a chymorth.