Awgrymiadau ar gyfer arferion bob dydd

tips_for_routines_optimised

Arferion bob dydd yw cyfres o weithgareddau sy'n eich helpu chi a'ch plentyn i baratoi ar gyfer bywyd beunyddiol. Mae arferion bob dydd yn sefydlu teimlad o ddiogelwch, arferion cadarnhaol ac yn rhan bwysig o fagu hyder ac iechyd meddwl da. 

Trefn arferol y nos
Trefn arferol amser gwely 

Trefn arferol y bore 

  1. Paratoi a Chynllunio
    Ceisiwch sicrhau bod popeth y barod ar eich cyfer chi a'ch plant y noson gynt. Bydd eich bore llawer yn haws os byddwch chi wedi paratoi dillad, gwisg ysgol a chinio ymlaen llaw. Ystyriwch bopeth byddwch chi eu hangen ar gyfer y diwrnod nesaf a'u rhoi yn eich bag. Fydd dim rhaid poeni am bacio eich bag mewn brys yn y bore. Dechreuwch drwy wneud rhestr wirio. 
  2. Pawb i gymryd rhan
    Mae'n bosibl y bydd trefn eich bore'n fwy llwyddiannus os bydd pawb yn eich teulu'n cymryd rhan. Os oes gennych chi blant hŷn, gofynnwch sut byddai modd iddyn nhw helpu. Er enghraifft, helpu'r plant iau i wisgo neu wneud brecwast. Gofynnwch am farn pawb sy'n byw yn eich tŷ ynglŷn â sut byddai modd i drefn yn y bore weithio i chi.
  3. Cael hwyl
    Mae modd gwneud trefn y bore yn fwy apelgar i blant trwy ei gwneud yn hwyl. Rhowch gynnig ar groesi eitemau oddi ar eich rhestr wirio neu ddefnyddio cloc i amseru pa mor gyflym mae eich plentyn yn cwblhau tasg. Meddyliwch am bethau mae eich plentyn yn ymateb yn gadarnhaol iddyn nhw. 
  4. Canmoliaeth ac anogaeth
    Mae plant yn ymateb yn dda i ganmoliaeth. Yn hytrach na throi'r teledu ymlaen pan mae eich plentyn yn deffro, ystyriwch ei gadw i ffwrdd nes eich bod chi wedi gorffen pob tasg. Gallai 10 munud o amser o flaen sgrin fod yn wobr wedi iddo orffen ei holl dasgau. Cofiwch gydnabod pan mae eich plentyn wedi gwneud rhywbeth yn dda, neu pan mae wir yn trio dilyn y drefn rydych chi wedi'i sefydlu.  
     
    Peidiwch â gwylltio os yw’n gwneud camgymeriadau, esboniwch sut byddai modd gwneud yn well a rhowch gynnig arall iddo. Peidiwch â thorri ar draws a chwblhau'r dasg eich hun. 
  5. Byddwch yn gyson
    Mae'n annhebygol y byddwch chi'n addasu i'r drefn newydd yn syth felly mae angen amser i ddod i'r arfer â hi. Defnyddiwch y drefn newydd bob dydd, wrth baratoi i fynd i'r ysgol, apwyntiadau, tripiau neu ymweld â'r parc. Rhowch y drefn ar waith yn gyson a byddwch chi'n dod i arfer â hi. Efallai bydd plant yn ceisio gwrthwynebu i ddechrau ond mae amynedd a chysondeb yn allweddol. Mae gwaith ymchwil yn dangos ei bod hi'n cymryd 66 diwrnod, ar gyfartaledd, i ymddygiadau newydd ddod yn arferion. 
  6. Os nad yw'r drefn yn gweithio
    Peidiwch â phoeni. Efallai na fydd eich trefn newydd yn gweithio i ddechrau - mae angen dod o hyd i drefn sy'n addas ar eich cyfer chi. Dydych chi ddim wedi methu. Ystyriwch beth fyddai'n gweithio'n well i'ch teulu chi. Gofynnwch i bawb am eu barn a gwerthuswch eich trefn gyda'ch gilydd.

Trefn arferol amser gwely 

Gall trefn amser gwely arwain at arferion cysgu da sy'n helpu eich plentyn i deimlo'n ddiogel a'i helpu i fynd i gysgu, a pharhau i gysgu drwy'r nos. 

Yr amser cywir 

Gall dod o hyd i'r amser cywir i roi eich plant yn y gwely fod yn heriol gan fod amseroedd gwahanol yn addas i blant gwahanol. Dyma ganllaw bras:  

  • Iau na 3 mis: efallai nad oes trefn cysgu i fabanod newydd-anedig yn ei lle eto, fodd bynnag, mae rhwng 7.30pm a 9.30pm yn amser da i anelu at eu rhoi i'r gwely. 
  • 0-6 mis: 7pm-8.30pm 
  • 6-12 mis: 6pm–8pm 
  • Rhwng 1 a 3 oed: 6pm–7.30pm 
  • 4-6 oed: 6pm–8pm 
  • 7–12 oed 7:30pm-9pm 
  • 13-16 oed: Mae angen tua 9 awr o gwsg y noson ar bobl yn eu harddegau. Cyfrwch am yn ôl o'r amser mae'n rhaid iddyn nhw ddeffro i fynd i'r ysgol a chaniatewch 20 munud ychwanegol i fynd i gysgu. 

Mae pob plentyn yn wahanol felly mae'n bosibl y bydd rhaid i chi addasu'r amseroedd yma. Os yw eich plentyn chi'n cymryd amser hir i fynd i gysgu, efallai bod angen iddo fynd i'r gwely ychydig yn hwyrach. Os yw eich plentyn wedi gorflino (ac yn llidus, yn drwsgl, yn drist neu'n bryderus) efallai bod angen iddo fynd i'r gwely ychydig yn gynt. Mae'n debygol bydd angen newid eu hamser gwely wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, felly peidiwch â bod ofn addasu'r amser. 

Cyn amser gwely 

Ceisiwch ddilyn yr un drefn bob nos yn yr awr cyn amser gwely. Ceisiwch ddod o hyd i drefn sy'n gweithio i'ch teulu chi. Dyma enghraifft o drefn amser gwely: cael diod a rhywbeth bach i fwyta, gwisgo, darllen stori a chysgu! 

Ceisiwch osgoi: 

  • Siwgr neu gaffîn mewn bwyd a diod 
  • Gweithgareddau sy'n symbylu'r meddwl (megis edrych ar sgrin, cerddoriaeth uchel neu chwarae tymhestlog)  
  • Straeon neu raglenni arswydus 

Dyma rai syniadau da: 

  • Rhowch wybod i'ch plentyn ei bod hi bron yn amser gwely (e.e. ar ôl iddo gael rhywbeth i fwyta dywedwch y byddwch chi'n mynd i frwsio dannedd ac yn mynd i'r gwely) 
  • Gwiriwch fod gan eich plentyn bopeth mae eu hangen (e.e. ydy e wedi cael diod? Oes ganddo ei hoff dedi neu flanced?) 

Amser gwely 

Efallai bydd plant yn teimlo'n fwy diogel gyda lamp fach neu â'r drws yn lled-agored. Ceisiwch beidio ag ateb yn syth os yw’n eich galw heblaw eich bod chi'n credu ei fod angen rhywbeth neu fod rhywbeth o'i le. Os bydd eich plentyn yn cadw codi o'r gwely, ceisiwch beidio â gwneud cyswllt llygad. Siaradwch yn bwyllog ac ewch ag ef nôl i'r gwely. Os bydd hyn yn digwydd llawer o weithiau, cofiwch fod yn amyneddgar a dilyn y cyfarwyddiadau uchod. Os yw’n deffro'n aml yn ystod y nos ystyriwch pam: Er enghraifft: 

  • Oes ganddo ofn y tywyllwch? Rhowch gynnig ar adael lamp ymlaen 
  • Ydy e’n cael hunllefau? Siaradwch â'ch plentyn a gofynnwch a oes rhywbeth yn ei boeni. Efallai bydd gweithgareddau megis creu teganau pryder yn fuddiol er mwyn mynd i'r afael â hyn. Mae'n arferol i blant iau gael hunllefau. Meddyliwch am unrhyw raglenni mae wedi'u gweld yn ddiweddar neu straeon mae wedi'u clywed. Cysurwch eich plentyn. 
  • Ydy tymheredd yr ystafell yn anghyfforddus? Ceisiwch ychwanegu neu dynnu blancedi rhag ofn bod eich plentyn yn rhy oer neu'n rhy boeth.  
  • Ydy eich plentyn yn llwglyd neu'n sychedig? Ystyriwch y bwyd â'r diod mae wedi'u cael yn rhan o'r drefn amser gwely. Oes rhywbeth gallwch chi ei newid? 

Yn y bore.
Gall trefn yn y bore gydfynd â threfn y nos. Peidiwch ag anghofio canmol eich plentyn am fynd i'r gwely ac am aros yn ei wely drwy'r nos. 

Os ydych chi'n poeni am batrwm cysgu eich plentyn, cysylltwch â'ch Ymwelydd Iechyd neu drefnu apwyntiad gyda'ch Meddyg Teulu.