Awgrymiadau ar gyfer rheoli ymddygiad

Gall bod yn rhiant fod yn un o'r rolau mwyaf buddiol ond heriol byddwn ni'n ei hwynebu erioed. Gall ddod â llawenydd a hapusrwydd pur ond hefyd gall fod rhai cyfnodau caled ac anodd. Dyma ychydig o awgrymiadau er mwyn rheoli ymddygiad heriol eich plentyn wrth iddo ddatblygu. 

managing behaviour

  1. Peidiwch â chynhyrfu. Pan fydd plentyn yn mynegi llawer o emosiwn, a rheini yn ymateb i'r emosiwn hynny gyda rhagor o emosiwn, bydd hynny'n cynyddu lefelau ymosodedd y plentyn. Ceisiwch beidio â chynhyrfu er mwyn atal rhagor o straen a gofid. 
  2. Addysgwch eich plentyn i fynegi ei hun trwy roi enw ar ei emosiynau. "Rwy'n deall dy fod di'n flin iawn ar hyn o bryd." Bydd gwneud hyn yn helpu eich plentyn i ddeall ei deimladau ac yn ei annog i'w mynegi ar lafar yn hytrach nag yn gorfforol. 
  3. Oedwch. Cofiwch nad oes neb yn gwrando'n astud pan fydd pobl yn teimlo'n emosiynol. Trefnwch amser i siarad pan fyddwch chi wedi cael cyfle i bwyllo a sicrhewch eich bod chi'n cyfathrebu mewn modd cadarnhaol. Gwrandewch a dangoswch eich bod chi'n deall. Peidiwch â bod ofn cymryd saib yn ystod y sgwrs. 
  4. Peidiwch â chael eich trechu gan ymddygiad ymosodol neu byliau o dymer. Os yw eich plentyn chi'n cal pwl o dymer mewn siop am ei fod eisiau rhywbeth, peidiwch ag ildio a'i brynu. Byddai gwneud hyn yn gwobrwyo ymddygiad negyddol. 
  5. Cydnabyddwch pan mae eich plentyn chi'n ymddwyn yn dda. Gwobrwywch ymddygiad da, hyd yn oes pan nad yw eich plentyn chi'n gwneud rhywbeth anarferol. Os na fydd unrhyw broblemau'n codi dros bryd bwyd, dywedwch 'Roeddwn i wir yn hoffi dy ymddygiad di dros fwyd." Dydy anrhegion a gwobrwyon ddim yn angenrheidiol. Mae cydnabyddiaeth a chanmoliaeth yn ddigon. 
  6. Byddwch yn effro i batrymau ymddygiad eich plentyn a dewch o hyd i'r pethau sy'n sbarduno pyliau o dymer. Ydy'r pyliau yma'n digwydd ar amser penodol? Os felly, rhowch gynnig ar roi strwythur i'ch arferion beunyddiol. Rhannwch dasgau yn gamau syml a rhowch rybuddion amser, megis "Rydyn ni'n gadael mewn 10 munud". Gosodwch nodau, megis cyrraedd yr ysgol ar amser bedwar diwrnod yr wythnos. Rhowch wobr i'ch plentyn pan fydd yn cyflawni'r nodau hynny. 
  7. Dewch o hyd i wobrwyon addas. Peidiwch â chanolbwyntio ar nodau ariannol neu faterol. Rhowch gynnig ar wobrwyon megis cael treulio hanner awr gyda mam neu dad, chwarae gêm, darllen stori, neu adael i'ch plentyn ddewis ffilm i'w gwylio. 

Dolenni defnyddiol: 

How to Deal with Challenging Behaviour in Children (NHS) 

 

Tudalennau yn yr Adran Hon