Syniadau ar gyfer Lles Rhieni

Mae gofalu amdanoch chi'ch hun yn rhan bwysig o fod yn rhiant. Mae bod yn rhiant yn heriol ac yn gofyn am lawer o egni corfforol ac emosiynol. Mae lles plant wedi'i gysylltu'n agos â lles eu rhieni a bydd Carfan Teuluoedd Cydnerth yn cymryd yr amser i siarad â chi am eich lles a sut i'w gadw ar y trywydd iawn! 

parental wellbeing

  1. Mae noson dda o gwsg yn hollbwysig. 
  2. Gwnewch amser i chi'ch hun bob dydd. 
  3. Byddwch yn greadigol - rhowch gynnig ar liwio. 
  4. Mae cerdded yn yr awyr agored yn fuddiol i glirio'r meddwl. Bydd cyn lleied â 10 munud yn gwneud lles i chi. 
  5. Darllenwch lyfr neu gylchgrawn yn hytrach nag edrych ar eich ffôn. 
  6. Cyfyngwch yr amser rydych chi'n edrych ar sgrîn cyn mynd i'r gwely. 
  7. Rhowch gynnig ar gael bath i ymlacio. 
  8. Trefnwch gwrdd â ffrindiau i gael sgwrs dros goffi. 
  9. Rhowch gynnig ar fyfyrio gan ddefnyddio'r ddolen isod. 
  10. Archwiliwch wasanaethau a chyfleoedd lleol sy'n hyrwyddo lles. Ystyriwch Mind, Camau'r Cymoedd, Cymunedau am Waith, Cynllun Hapi a New Horizons.

 

Dolenni defnyddiol: