Ffrindiau

Os wyt ti, neu unrhyw un o dy gwmpas di wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Clicia yma i ddarganfod beth i'w wneud mewn argyfwng. 

Mae cael ffrindiau da yn rhan bwysig o fywyd, maen nhw'n gallu gwneud i ti deimlo'n hapus iawn. Mae gwneud ffrindiau newydd a cholli ffrindiau yn rhan normal o fywyd, yn enwedig wrth i ti fynd yn hŷn. Efallai y bydd adegau hefyd pan fyddi di’n cweryla gyda ffrindiau sy'n gallu teimlo'n eithaf unig. Gall ffrindiau fod yn gefn i ti pan fyddi di angen help ac efallai y byddi di hefyd yn gweld bod yna adegau pan fydd ffrindiau angen dy help di.

Mae llawer o wasanaethau yn RhCT sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth am gyfeillgarwch i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Rydyn ni wedi eu rhoi nhw i gyd mewn un lle fel bod modd i ti benderfynu'n gyflym pa un sydd orau i chi.

Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) gyngor defnyddiol ar gyfeillgarwch gan gynnwys:

  • Ffrindiau ymysg pobl ifanc 11-16 oed a 17 oed a hŷn
  • Symud ysgol

Mae mynd allan yn helpu i dy gadw di'n iach. Mae'n hybu iechyd meddwl da trwy dy helpu i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. 

Mae gan Childline gyngor ac arweiniad ardderchog ar y pynciau canlynol: 

  • Ffrindiau 
  • Pwysau gan gyfoedion 
  • Bwlio a seiberfwlio 
  • Syniadau ar gyfer gwneud ffrindiau 
  • Cyngor ar helpu ffrind 
  • Ymdopi â straen 
  • Bod yn gadarn 
  • Magu hyder a hunan-barch