Ar Hyd y Lle

going OutMae nifer o fuddion i'w cael o ran mynd y tu allan i dy gartref.  Mae'n fwy na dim ond newid golygfa - mae modd iddo dy helpu di i ddod o hyd i ffrindiau newydd, cwrdd â phobl newydd a gwneud pethau newydd.  Mae hyn yn bwysig ar gyfer corff iach a meddwl iach. 

Mae bob amser yn bwysig cadw'n ddiogel pan fyddi di'n mynd allan ar ben dy hunan. Dyma rai awgrymiadau i gadw dy hunan yn ddiogel: 

  • Bydd yn effro. Os wyt ti'n gwisgo clustffonau i wrando ar gerddoriaeth, gwna’n siŵr dy fod di'n gallu clywed beth sy'n digwydd o dy gwmpas o hyd. 
  • Cadwa ar ffyrdd sydd wedi'u goleuo'n dda ac osgoi ardaloedd unig. 
  • Os wyt ti'n meddwl bod rhywun yn dy ddilyn di, cer i le prysur fel siop a dweud wrth rywun. 
  • Ystyria gario ffôn, chwiban neu larwm. 
  • Os oes ffôn neu bethau gwerthfawr gyda ti, cadwa nhw allan o'r golwg. 
  • Peidia byth â chario arfau. 
  • Rho wybod i rywun os wyt ti'n meddwl dy fod ddim yn ddiogel pan fyddi di'n mynd allan. 
  • Ffonia 999 os wyt ti, neu unrhyw un o dy gwmpas wedi brifo neu mewn perygl. 

Dysga pa bryd i ffonio 999, beth i'w wneud a beth sy'n digwydd nesaf. 

Cynlluniau Chwarae

Gall pob plentyn a pherson ifanc rhwng 5 a 14 oed sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf fynychu ein cyfleoedd chwarae cymeradwy unwaith y bydd ffurflen archebu wedi'i chwblhau a'i llofnodi gan y rhiant neu'r gofalwr.

Gweithgareddau ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau 

Mae gweithgareddau llawn hwyl ar gael i blant a phobl ifainc ar ôl ysgol a phan fydd ysgolion a cholegau yn torri i fyny am wyliau. Mae rhai o'r rhain ar gael drwy'r ysgol ac mae rhai yn agored i bawb. 

Dere o hyd i wybodaeth am ba weithgareddau sy'n cael eu cynnal yn dy ardal di. 

Clybiau ieuenctid 

Mae gweithgareddau llawn hwyl ar gael i blant a phobl ifainc ar ôl ysgol a phan fydd ysgolion a cholegau yn torri i fyny am wyliau. Mae rhai o'r rhain ar gael drwy'r ysgol ac mae rhai yn agored i bawb. 

Dere o hyd i glybiau ieuenctid yn dy ardal di 

Places to Visit

Bydd treulio amser yn yr awyr agored yn dy helpu di i sicrhau bod dy gorff a dy feddwl yn cadw'n iach. Mae pobl sy'n treulio mwy o amser y tu allan yn llai tebygol o brofi problemau sy'n gysylltiedig â phwysau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae gan RCT nifer o anturiaethau a lleoedd i ymweld â nhw. 

Dere o hyd i bethau i'w gwneud yn dy ardal d

Llyfrgelloedd 

RCT Libraries are public spaces that not only help you access information but can help you be more creative. Joining a library can give you access to books and ebooks, DVDs, CDs, IT equipment and the internet and even host some fun events.

Dere o hyd i wybodaeth am yr hyn sydd gan dy lyfrgell leol i'w gynnig. 

Ymarfer Corff a Chwaraeon 

Dere’n fwy heini a gwella dy iechyd corfforol a meddyliol. Mae gan Chwaraeon RhCT lawer o syniadau sy'n addas ar gyfer dy grŵp oedran di. 

Dere o hyd i weithgareddau ar gyfer pob grŵp oedran yn RhCT 

Achlysuron llawn hwyl i'r teulu 

Mae nifer o achlysuron llawn hwyl i'r teulu yn cael eu cynnal yn RhCT drwy gydol y flwyddyn. Mae modd i'r rhain gynnig amser i deuluoedd ddod at ei gilydd a mwynhau gweithgareddau llawn hwyl gyda'i gilydd mewn ardaloedd lleol. 

Dere o hyd i achlysuron yn RhCT 

Tudalennau yn yr Adran Hon