Dweud eich dweud

Gan dy fod yn berson ifanc, efallai na fydd hi bob amser yn hawdd i ti fynegi dy feddyliau a dy farn. Efallai bod gen ti lawer o syniadau gwych am yr hyn hoffet ti ei weld yn dy gymuned leol neu ffyrdd y byddai modd i ni wella pethau. P'un a bod y syniadau yna'n ymwneud â'r ysgol, dy amser rhydd, y gwasanaethau yr hoffet ti eu gweld neu'r rhai rwyt ti eisoes yn eu defnyddio; mae modd i ti leisio dy farn!

Isod mae rhai gwefannau defnyddiol iawn sy'n cynnig cyfle i ti ddweud dy ddweud a mynegi dy farn. 

Dewch i Siarad RhCT

Mae Dewch i Siarad RhCT yn cynnig y cyfle i ti leisio dy farn ar amrywiaeth o bynciau gwahanol sy'n ymwneud â dy ardal leol; o newid hinsawdd a'r amgylchedd i'r gwasanaethau hoffet ti eu gweld a'u defnyddio. Mae pethau newydd i ti fynegi dy farn di arnyn nhw yn codi'n rheolaidd. Trwy gyfrannu dy farn, mae cyfle i ti helpu i wneud y newidiadau hoffet ti eu gweld yn Rhondda Cynon Taf. 

Voices from Care

Sefydliad ar gyfer pobl ifainc sydd wedi derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru yw Voices From Care. Mae’n cael ei redeg gan bobl sydd â phrofiad o dderbyn gofal eu hunain ac mae’n cynnig cyfle i leisio barn a gwneud pethau’n well i bobl ifainc eraill sy’n derbyn gofal. Trwy Voices of Care, mae modd: 

  • Cael cyfle i ddweud dy stori a helpu i wella gwasanaethau; 
  • Manteisio ar wasanaethau cyngor a chymorth i'r rheiny sy'n derbyn gofal neu'n gadael gofal. 

Cysylltu â Voices from Care drwy eu gwefan: 

Eu gwefan: https://vfcc.org.uk/cy/
ar y ffôn: 02920451431 
drwy e-bost: info@vfcc.org.uk 

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) 

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid RhCT yn cynnig ystod eang o wasanaethau i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed yn Rhondda Cynon Taf. Er mwyn dy helpu di, dy gefnogi di, a chynnig y gweithgareddau a’r cymorth sydd eu hangen arnat ti, mae YEPS yn gofyn am dy fewnbwn di ar yr hyn rwyt ti'n meddwl sydd ei angen yn dy fywyd o ddydd i ddydd: 

I gymryd rhan yn YEPS neu i weld eu harolwg ewch i'r wefan yma.