Tai

Un o'r pethau pwysicaf sydd ei angen arnon ni i gyd i fyw bywyd hapus ac iach, beth bynnag fo'n hoedran, yw cartref diogel a chyfforddus. Mae llawer o wahanol fathau o gartrefi, efallai eich bod chi'n byw gyda'ch rhieni neu warcheidwad neu berthynas arall. Os ydych yn hŷn efallai eich bod chi'n byw ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, yn rhannu tŷ neu'n byw gyda phartner. 

Beth bynnag fo'ch sefyllfa pan fyddwch chi'n cael problemau gartref, mae'n gallu achosi straen a gofid mawr. 

Syrffio Soffa

Efallai dydych chi ddim yn sylweddoli eich bod chi'n ddigartref! Os nad oes gyda chi le diogel i fyw yn barhaol, ac aros yn rheolaidd mewn cartrefi ffrindiau, perthnasau neu hyd yn oed dieithriaid, rydych chi'n cael eich ystyried yn ddigartref. Gelwir hyn yn aml yn Syrffio Soffa ac mae pobl ar gael i'ch helpu chi. 

Pobl sy'n iau nag 16 oed

Os byddi di'n ffeindio dy hun yn ddigartref neu does dim modd i ti aros yn dy gyfeiriad presennol oherwydd dydy hi ddim yn ddiogel neu rwyt ti wedi cael dy orfodi i adael, dylet ti gysylltu â'r heddlu. Mae modd iddyn nhw naill ai helpu gyda dy broblem gartref bresennol, neu os nad oes modd i ti ddychwelyd adref, mae modd iddyn nhw roi manylion y bobl gywir i ti fel bod modd i ti drefnu lle brys i aros.

Dylai plant dan 16 oed ffonio’r heddlu ar 999 os ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw mewn perygl, neu 101 os ydyn nhw'n ddiogel ar hyn o bryd ond yn ddigartref neu ar fin bod yn ddigartref. 

Pobl sy'n 16 oed neu'n hyn 

Canolfan Cyngor ar Faterion Tai RhCT 

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hyn, ac yn ffeindio'ch hun yn ddigartref bydd angen i chi roi gwybod i ni fel bod modd i ni asesu eich sefyllfa a chanfod y ffordd orau i'ch helpu. 

Bydd y Ganolfan Cyngor ar Faterion Tai yn: 

  • Prosesu eich cais digartrefedd 
  • Asesu a ydy'ch angen chi am lety brys yn flaenoriaeth 
  • Cynnig gwasanaethau cymorth i chi a fydd o bosibl yn gallu'ch helpu chi.
  • Cynnig gwasanaethau cyfryngu i chi a fydd yn eich helpu chi i ddatrys anghydfodau gyda rhieni, perthnasau, a phartneriaid sydd o bosibl wedi arwain at fod yn ddigartref.

I gysylltu â Chanolfan Cyngor ar Faterion Tai RhCT, ffoniwch 01443 495188 neu ewch i roi gwybod mewn person eich bod chi'n ddigartref rhwng 9am a 5pm yn Nhŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Llamau

Elusen Gymreig yw Llamau sy’n helpu pobl ifainc digartref. Os wyt ti'n ddigartref dy hun, neu'n poeni am berson ifanc arall sy'n ddigartref, mae modd i Llamau:

  • Dy helpu di i ddod o hyd i'r bobl orau a fydd yn gallu rhoi cymorth i ti. 
  • Dy helpu di pan fyddi di'n mynd i gyfarfodydd gyda'r Cyngor. 
  • Dy helpu di i gyfryngu (siarad am broblemau) gyda rhieni, perthnasau a phartneriaid. 

I ddod o hyd i'r holl wybodaeth a gwasanaethau defnyddiol y mae Llamau'n eu cynnig, cer i'w gwefan

Shelter Cymru

Elusen ddigartrefedd yng Nghymru yw Shelter Cymru sy'n cynnig cyngor arbenigol i chi p’un a ydych yn ddigartref ar hyn o bryd, yn cael problemau gartref neu’n wynebu cael eich troi allan. Dyma rai o’r gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig: 

  • Cymorth brys i bobl ifainc sy'n ddigartref 
  • Cymorth brys gyda materion arian a rhent 
  • Cyngor cyfreithiol arbenigol i bobl ifainc sy'n wynebu digartrefedd 
  • Problemau gyda landlordiaid 
  • Cymorth a chyngor i sefydlu'ch cartref cyntaf 

I gysylltu â Shelter: 

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf 

Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) ddau swyddog penodedig i helpu pobl ifainc rhwng 11 a 25 oed gyda materion tai a digartrefedd, sef Swyddog Addysg Digartrefedd Ieuenctid a Swyddog Digartrefedd Ieuenctid penodedig. Mae modd i'r swyddogion yma gynnig ystod o gymorth mewn ysgolion ac yn y gymuned lle rydych chi'n byw. Mae modd iddyn nhw ddarparu'r canlynol: 

  • Cymorth un-wrth-un i bobl ifainc rhwng 16 a 25 oed sydd mewn perygl o fod yn ddigartref 
  • Cymorth mewn ysgolion, lleoliadau yn y gymuned, sesiynau ar y strydoedd a thrwy ymweld â chartrefi'r bobl ifainc 
  • Hyfforddiant i bobl ifainc i'w haddysgu am faterion digartrefedd. 
  • Prosiectau yn y gymuned ac mewn ysgolion i wella sgiliau pobl ifainc i fyw'n annibynnol 
  • Ymyriadau trwy gymorth wedi'i dargedu'n gynnar. Mae'r cymorth yma'n cynnwys helpu i addysgu pobl ifainc, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill, am wir effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifainc, ac i roi gwybodaeth a chyngor. 

I gael rhagor o wybodaeth gan YEPS ewch i'w gwefan

Cyngor ar Bopeth 

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor i'r cyhoedd ar ystod eang o faterion yn ogystal ag unrhyw faterion tai sydd gyda chi. Maen nhw'n ymdrin â phynciau fel: 

  • Rhentu eiddo 
  • Problemau gyda landlordiaid 
  • Atgyweiriadau mewn cartrefi rhent 
  • Treth y Cyngor 
  • Troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent 

I ddod o hyd i restr lawn o'r holl wasanaethau sydd ar gael ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.

Mae croeso i chi ffonio'r gwasanaeth ffôn cenedlaethol ar 0800 7022 020, ond efallai bydd rhywfaint o oedi oherwydd nifer y galwadau. 

I gael mynediad at we-sgwrs neu e-bost, cliciwch yma.