Arian

Os ydych chi, neu unrhyw un o'ch cwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffoniwch 999 ar unwaith. Cliciwch yma i ddarganfod beth i'w wneud mewn argyfwng. 

Gall poeni am arian roi straen mawr arnoch chi. Mae llawer o wasanaethau yn RhCT yn gallu rhoi cyngor a chymorth ariannol i blant a phobl ifainc hyd at 25 oed. Rydyn ni wedi eu rhoi nhw i gyd mewn un lle fel bod modd i chi benderfynu'n gyflym pa un sydd orau i chi. 

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yn cynnig cyngor ar faterion ariannol i bobl ifainc yn RhCT fel: 

  • Banciau a chymdeithasau adeiladu 
  • Buddion 
  • Cyllidebu 
  • Dyled 

Mae modd i sefydliad Cyngor ar Bopeth yn RhCT eich helpu gyda: 

  • Buddion 
  • Dyled 
  • Tai 
  • Materion Defnyddwyr 
  • Tocynnau parcio 

Mae gan Childline gyngor ac arweiniad ardderchog ar y pynciau canlynol: 

  • Poeni am arian 
  • Ymdopi â phroblemau ariannol 
  • Cyllidebu 
  • Arbedion  

Mae gan y GIG gyngor ar sut i ymdopi â phryderon ariannol 

Mae gan Shelter Cymru adnoddau a chyngor swyddfa ar y canlynol: 

  • Cymorth brys gydag arian 
  • Dyled 
  • Morgeisi 
  • Cyngor ariannol

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gardiau teithio am bris gostyngol megis: 

  • Tocyn trên Two Together 
  • Tocyn trên 16-17 Saver 
  • Tocyn trên 16-25  
  • Tocyn trên 26-30  
  • Tocyn trên Teulu a Ffrindiau 
  • Tocyn trên i Bobl dros 60 Oed 
  • Tocyn trên i Bobl Anabl 
  • Cerdyn Gostyngiadau Teithio Canolfan Byd Gwaith a Mwy 
  • Tocyn trên i Fyfyrwyr 
  • Tocyn trên i Gyn-filwyr 

Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau cymorth yn eich ardal chi. Mae modd gweld rhestr o'r holl wasanaethau sy'n rhoi cyngor ar faterion ariannol yn RhCT yma.