Cadw'n ddiogel

Os wyt ti, neu unrhyw un o'th gwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Clicia yma i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng. 

Mae modd i nifer o wasanaethau yn RhCT roi cyngor a chymorth i blant a phobl ifainc hyd at 25 oed. Rydyn ni wedi dwyn y cyfan ynghyd mewn un lle er mwyn i ti benderfynu'n gyflym pa un sydd orau i ti. 

Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) ganllaw defnyddiol ar bwy mae modd i ti gysylltu â nhw am gyngor a chymorth brys yn ystod neu y tu allan i oriau'r swyddfa, megis: 

  • Gwasanaethau brys 
  • Cyngor ar faterion iechyd 
  • Digartrefedd 
  • Defnydd o gyffuriau ac alcohol 
  • Camfanteisio ar blant a'u hamddiffyn ar-lein 
  • Problemau iechyd meddwl 
  • Atal hunanladdiad 

Mae Cyngor RhCT yn cynnig cyngor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar bryderon yn ymwneud â diogelu plant. Cei di ddod o hyd i fanylion ar sut i gysylltu â nhw yma

Mae modd i Gyngor ar Bopeth yn RhCT dy helpu di gyda'r canlynol: 

  • Trais ac ymosodiad rhywiol 
  • Camau cyfreithiol o ran anafiadau personol 
  • Gwahaniaethu 
  • Hawliau dynol a hawliau pobl ifainc 

Mae gan Childline gyngor a chanllawiau ardderchog ar y pynciau canlynol: 

  • Bwlio 
  • Camdriniaeth, fel cam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol 
  • Diogelwch ar-lein 
  • Troseddau a'r gyfraith, megis hiliaeth, gangiau a throseddau drylliau a chyllyll 
  • Dy hawliau di, fel gwahaniaethu, troseddau casineb, cydraddoldeb a ffoaduriaid a cheiswyr lloches 

Mae gan Heddlu De Cymru wybodaeth hanfodol ar adnabod, ymateb i a rhoi gwybod am droseddau a deall y gyfraith, megis: 

  • Cam-drin plant 
  • Cam-drin yn y cartref 
  • Magu/meithrin perthynas amhriodol 
  • Trosedd casineb 
  • Priodas dan orfod 

Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau a all helpu yn dy ardal di. Cei di weld rhestr o'r holl wasanaethau a all helpu pawb i gadw'n ddiogel yn RhCT yma.