Bod yn ddiogel

Os wyt ti, neu unrhyw un o'th gwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Clicia yma i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng. 

Mae llawer o wasanaethau yn RhCT sy'n gallu rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifainc o bob oed. Yn y rhestr yma cei di ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnat ti. 

Mae Cyngor RhCT yn cynnig cyngor ar unrhyw adeg i blant sy'n meddwl nad ydyn nhw'n cael gofal priodol gartref neu'n meddwl bod rhywun wedi gwneud rhywbeth iddyn nhw nad ydyn nhw'n teimlo sy'n iawn. Clicia ar y ddolen yma i ddysgu sut i gysylltu â nhw. 

Mae Childline yma i helpu plant fel ti gyda phob math o broblemau sydd o bosibl gyda nhw:

  • Bwlio 
  • Ddim yn teimlo'n ddiogel gartref neu gyda phobl eraill 
  • Diogelwch ar-lein

Heddlu De Cymru, mae modd i'r heddlu dy helpu di os: 

  • Mae rhywun wedi dy frifo di. 
  • Mae rhywun yn gofyn i ti wneud pethau dwyt ti ddim yn meddwl sy'n iawn, neu bethau sy'n peri gofid i ti. 
  • Dwyt ti ddim yn teimlo'n ddiogel gartref neu rwyt ti o'r farn dy fod di ddim yn derbyn gofal. 

Mae modd i DEWIS gynnig gwasanaethau a all helpu yn dy ardal di. Cei di weld rhestr o'r holl wasanaethau a all helpu pawb i gadw'n ddiogel yn RhCT yma.