Ysgol ac Addysg

school_and_learning_optimised

Yma yng Nghymru lle rydyn ni'n byw, mae'r gyfraith yn nodi bod yn rhaid bod modd i bob plentyn gael addysg ar ôl ei ben-blwydd yn 5 oed. Mae yna ychydig o wahanol ffyrdd y mae modd i hyn ddigwydd ond bydd y rhan fwyaf o blant yn mynd i ysgol. Efallai y bydd rhai yn aros gartref a chael addysg mewn modd ychydig yn wahanol. Rydyn ni i gyd yn treulio llawer o amser yn yr ysgol! Mae'n rhan bwysig iawn o'n bywydau lle mae modd i ni ddysgu, gwneud ffrindiau a bod yn heini. Mae'n iawn i ti deimlo'n bryderus am yr ysgol weithiau ond mae hefyd yn bwysig iawn dy fod di'n siarad â rhywun am sut rwyt ti'n teimlo. 

Os wyt ti'n poeni am unrhyw beth o gwbl siarada ag athro, aelod o'r teulu neu ffrind rwyt ti'n ymddiried ynddo. 

Mae modd i siarad wneud i ti deimlo'n well ac efallai y bydd modd iddyn nhw dy helpu di. Mae bob amser yn dda cynllunio'r hyn rwyt ti am ei ddweud yn gyntaf a meddwl am yr hyn yr hoffet iddo ddigwydd nesaf. Er enghraifft: 

  • Beth sy'n bod 
  • Sut mae'n gwneud i ti deimlo 
  • Ers pryd mae hyn wedi bod yn digwydd neu ers pryd rwyt ti wedi bod yn teimlo fel hyn 
  • Sut hoffet ti iddyn nhw dy helpu di 
  • Beth hoffet ti i ddigwydd 

Rydyn ni wedi dwyn ynghyd gwefannau a allai fod o gymorth i ti yn yr ysgol - gweler isod. 

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf lawer o wybodaeth am ei ysgolion ar-lein. 

Os nad wyt ti'n mynd i'r ysgol yn aml iawn, efallai y bydd y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles yn cysylltu â dy rieni neu gynhaliwr/gwarcheidwad. Mae modd iddyn nhw eich helpu chi i gyd i weithio trwy unrhyw broblemau a dy helpu di i fynd i'r ysgol yn fwy rheolaidd. 

Os wyt ti'n Blentyn sy'n Derbyn Gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, bydd gyda ti Gynllun Addysg Personol. Mae modd i ti ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yma

Mae gan Childline gyngor a chanllawiau ardderchog ar y pynciau canlynol: 

  • Gwaith cartref ac adolygu 
  • Straen arholiadau 
  • Canlyniadau arholiadau 
  • Paratoi ar gyfer arholiadau 
  • Symud ysgol 
  • Cael dy wahardd o'r ysgol 
  • Dyslecsia ac anawsterau dysgu 
  • Dy ddyfodol 

Mae gan SNAP Cymru wybodaeth a chymorth ar y pynciau canlynol: 

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol 
  • Cael cymorth gan yr ysgol 
  • Cael cymorth gan yr awdurdod lleol 
  • Cael cymorth gan yr adran Iechyd 
  • Gwaharddiadau 
  • Lleoliad 
  • Gwahaniaethu 

Mae Meic yn wasanaeth eiriolaeth sy’n cael ei gynnig i bobl hyd at 25 oed yng Nghymru. Maen nhw'n rhoi cymorth i ti i dy helpu i fynegi dy farn, ac yn dy helpu i sefyll dros dy hawliau. Os wyt ti'n mynd i ysgol mewn awdurdod lleol arall, cei di ddod o hyd i wybodaeth yma: