Gwybodaeth a Chyngor

Efallai y bydd gyda chi lawer o gwestiynau wrth dyfu i fyny ac weithiau mae'n anodd gwybod i bwy i ofyn neu ble i fynd am help.  Mae'n iawn i chi deimlo'n bryderus weithiau ond mae'n bwysig eich bod chi'n siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo am sut rydych chi'n teimlo.  Gall hyn fod yn aelod o'r teulu, athro neu ffrind.  Efallai y bydd ffrind yn gofyn i chi am help o bryd i'w gilydd hefyd.   Os ydych chi'n poeni am siarad â rhywun, efallai y bydd ysgrifennu beth sydd ar eich meddwl yn eich helpu.   Ceisiwch feddwl am sut rydych chi'n teimlo a beth hoffech chi gael cymorth gydag ef.

Mae gyda ni lawer o gyngor ar rai o'r pryderon sydd o bosibl gyda chi ac mae modd i ni eich helpu chi i ddod o hyd i rywun i'ch helpu.