Ffrindiau

Os wyt ti, neu unrhyw un o dy gwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Bwria olwg yma i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng

Mae cael ffrindiau da yn rhan bwysig o fywyd, ac mae modd iddyn nhw wneud i ti deimlo'n hapus iawn. Mae gwneud ffrindiau newydd a cholli ffrindiau yn rhan arferol o fywyd, yn enwedig wrth i ti fynd yn hŷn. 

Efallai y bydd adegau hefyd pan fyddi di'n cweryla gyda dy ffrindiau ac mae modd i hynny deimlo'n eithaf unig.   

Mae modd i nifer o wasanaethau yn RhCT roi cyngor a chymorth ar gyfeillgarwch i blant. Rydyn ni wedi dod â'r cyfan at ei gilydd mewn un lle er mwyn i ti benderfynu'n gyflym pa un sydd orau i ti. 

Mae mynd allan ar hyd y lle gyda dy rieni a rhoi cynnig ar bethau newydd yn gallu bod yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd. 

Mae gan Childline awgrymiadau am ffyrdd gwych i ti wneud ffrindiau newydd. Mae modd iddyn nhw hefyd dy helpu di pan fyddi di efallai ddim yn bwrw ymlaen gyda dy ffrindiau neu'n cael dy drin yn wael. Efallai mai yn yr ysgol fydd hyn, neu ar y rhyngrwyd neu unrhyw le arall.