Mynd allan

out and aboutMae chwarae yn yr awyr agored yn gallu helpu i gadw dy feddwl a dy gorff yn iach. Mae modd i ti gwrdd â dy ffrindiau, dod o hyd i ffrindiau newydd a gwneud pethau newydd. Os oes caniatâd gyda ti i fynd allan ar ben dy hun, dylet ti wneud y canlynol bob amser: 

  • Gofyn i dy riant neu gynhaliwr/gwarcheidwad cyn chwarae y tu allan ar ben dy hun
  • Peidio â siarad â phobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod. 
  • Peidio â mynd i unrhyw le gyda phobl ddieithr. 
  • Dweud wrth dy riant neu gynhaliwr/gwarcheidwad os bydd rhywun dieithr yn ceisio siarad â ti neu os wyt ti'n teimlo’n anniogel y tu allan. 
  • Os byddi di'n mynd ar goll, gofynna am help gan rywun rwyt ti'n ymddiried ynddo. Efallai mai siopwr, swyddog heddlu neu deulu cyfagos fydd hyn. 
  • Ceisia ddysgu dy gyfeiriad a rhif ffôn rhiant neu gynhaliwr/gwarcheidwad cyn i ti adael y tŷ. 
  • Ffonia 999 os wyt ti, neu unrhyw un o dy gwmpas, wedi brifo neu mewn perygl. 

Dysga pa bryd i ffonio 999, beth i'w wneud a beth sy'n digwydd nesaf. 

Os nad oes caniatâd gyda ti i fynd allan ar ben dy hun, mae llawer o bethau mae modd i ti eu gwneud gyda dy deulu o hyd. 

Dyma rai syniadau am bethau cei di eu gwneud yn Rhondda Cynon Taf. 

Cynlluniau Chwarae 

Mae modd i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 5 a 14 oed sy'n byw yn RhCT fynd i'n cynlluniau chwarae unwaith y bydd ffurflen cadw lle wedi'i llenwi a'i llofnodi gan riant neu gynhaliwr/gwarcheidwad. 

Dere o hyd i Gynlluniau Chwarae yn dy ardal di. 

Parciau

Beth am fynd ar antur i barc lleol? Dere o hyd i barc yn dy ardal di. 

LLlyfrgelloedd

Ymuna â'r llyfrgell i gael mynediad at lyfrau ac e-lyfrau, DVDs, cryno ddisgiau, offer TG a'r rhyngrwyd, a hyd yn oed ymuno ag achlysuron llawn hwyl. 

Dewre o hyd i wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn dy lyfrgelloedd agosaf. 

Ymarfer Corff a Chwaraeon 

Mae gan Chwaraeon RhCT nifer o weithgareddau i ti ymuno â nhw. Chwilia am syniadau ar gyfer pob grŵp oedran. 

Achlysuron Llawn Hwyl i'r Teulu 

Dyma gyfle i ti gael hwyl gyda dy deulu cyfan yn dy ardal leol. Mae gan RCT achlysuron llawn hwyl sy'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. 

Tudalennau yn yr Adran Hon