Bywyd i Bobl Ifainc

Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol wedi datblygu'r rhaglen Bywyd i Bobl Ifainc er mwyn helpu rhieni/gwarcheidwaid i ddeall profiad pobl ifainc o fyw gydag awtistiaeth. Mae'r rhaglen yn cwmpasu meysydd megis hunan-hyder, straen a phryder, y glasoed a sgiliau byw'n annibynnol. Diben y rhaglen yw dod â rhieni/gwarcheidwaid ynghyd i rannu gwybodaeth, profiadau a syniadau. 

Pwy sy'n gymwys? Bydd 6 sesiwn yn rhan o'r rhaglen yma ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid pobl ifainc rhwng 10 ac 16 oed sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig. 
Pris: Am ddim  
Lleoliad: Dydy lleoliad y rhaglen heb ei gadarnhau eto - bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law 
Hyd: Sesiwn dwy awr yr wythnos am 6 wythnos 
Sesiwn grŵp neu un wrth un? Bydd y sesiynau yma i grwpiau a byddan nhw'n digwydd naill ai'n rhithiol neu yn y gymuned. 

Mae modd i deuluoedd ffonio'r garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 01443 425006 neu e-bostio CarfanGCC@rctcbc.gov.uk er mwyn cofrestru ar gyfer y rhaglen yma.