Rhaglen Rhianta 'Take 3'

Mae'r Rhaglen Rhianta 'Take 3' yn canolbwyntio ar wella perthnasau pobl ifainc a'u teuluoedd ac yn archwilio sut i wella ymddygiad pobl ifainc yn y cartref, yr ysgol a'r gymuned. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi rhieni i sefydlu strwythur a gosod ffiniau perthnasol. 

Pwy sy'n gymwys? Dyma raglen ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid sydd â phlant rhwng 10 ac 18 oed 
Pris: Am ddim
Lleoliad: Dydy lleoliad y rhaglen ddim wedi’i gadarnhau eto - bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law
Hyd: Sesiwn dwy awr yr wythnos am 10 wythnos 
Sesiwn grŵp neu un wrth un? Bydd y sesiynau yma i grwpiau a byddan nhw'n digwydd naill ai'n rhithiol neu yn y gymuned.

Mae modd i deuluoedd ffonio'r garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 01443 425006 neu e-bostio CarfanGCC@rctcbc.gov.uk er mwyn cofrestru ar gyfer y rhaglen yma.