Rhaglen i rieni plant sydd ag ADCG

Mae'r rhaglen yma'n canolbwyntio ar wella dealltwriaeth rhieni o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd. Caiff cyngor a strategaethau eu rhannu ynglŷn ag addysg, meddyginiaeth ac ymddygiad. 

Dyma raglen sydd wedi'i datblygu gan elusen Barnardos ar gyfer rhieni plant rhwng 6 ac 16 oed sydd â diagnosis o ADCG. Mae'r rhaglen yma'n rhedeg am 8 wythnos. 

Pwy sy'n gymwys? Rhieni plant rhwng 6 ac 16 oed sydd â diagnosis meddygol o ADCG. 
Pris: Am ddim  
Lleoliad: Dydy lleoliad y rhaglen ddim wedi’i gadarnhau eto - bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law. 
Hyd: Sesiwn dwy awr yr wythnos am 8 wythnos 
Sesiwn grŵp neu un wrth un? Bydd y sesiynau yma i grwpiau a byddan nhw'n digwydd naill ai'n rhithiol neu yn y gymuned. 

Mae modd i deuluoedd ffonio'r garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 01443 425006 neu e-bostio CarfanGCC@rctcbc.gov.uk er mwyn cofrestru ar gyfer y rhaglen yma.