Awgrymiadau ar gyfer rheoli ymddygiad plant niwroamrywiol

Mae'r dechneg yma'n defnyddio amserlenni sy'n cynnwys y presennol (Nawr) a'r dyfodol (Wedyn). Mae'r dechneg yma'n defnyddio cyfarwyddiadau clir a syml er mwyn peidio â gorlethu'r plentyn/person ifanc trwy ofyn gormod o gwestiynau a phentyrru gwybodaeth. Dylai defnydd cyson o'r dechneg yma leihau nifer yr achosion ymddygiadol pan fydd plant â chyflwr niwroamrywiol yn dod yn bryderus. Mae'r dechneg yma'n arf rheoli ymddygiad effeithiol sy'n gymharol rhad i'w rhoi ar waith. 

Gall y dechneg yma hefyd fod yn effeithiol wrth geisio sefydlu arferion beunyddiol i blant â chyflyrau niwroamrywiol. 

Mae modd creu'r amserlenni trwy ddefnyddio cerdyn trwchus a felcro. Ewch ati i greu adrannau NAWR ac WEDYN ar y cerdyn 

  1. Penderfynwch beth rydych chi am eu defnyddio yn anogaeth weledol, e.e. lluniau, gwrthrychau 
  2. Rhowch felcro ar yr amserlen a glynu eich anogaeth weledol ato. Ar ôl i chi benderfynu ar eich anogaeth weledol, sicrhewch fod digon ohonyn nhw i gwmpasu pob tasg beunyddiol. 
  3. MSicrhewch eich bod chi'n gosod yr amserlen rhywle bydd eich plentyn yn ei gweld. 

Gan ddefnyddio'r amserlen Nawr ac Wedyn: 

  • Dangoswch yr hyn mae angen ei wneud yn gyntaf (nawr) a pha wobr bydd eich plentyn yn ei derbyn wedi iddo gwblhau'r dasg (wedyn). 
  • Er enghraifft: 
    Nawr: Brwsio dannedd 
    Wedyn: iPad 
    Mae'n bwysig cadw'r system yn syml fel bod eich plentyn yn deall yr hyn rydych chi'n gofyn iddo. 
  • Defnyddiwch yr amserlen drwy'r dydd a newidiwch y gweithgareddau, er enghraifft:  
    Nawr: Bwyta swper  
    Wedyn: Mynd i'r ardd 
  • Mae'r dechneg yma wedi'i chynllunio i leihau lefelau pryder plant. Ar ôl i chi gyflwyno'r dechneg yma, mae modd ei defnyddio yn rhan o'ch arferion beunyddiol a phryd bynnag mae angen i'ch plentyn chi gwblhau tasg. 
  • Newidiwch yr anogaeth weledol drwy gydol y diwrnod. 
  • Mae'n bwysig defnyddio'r dechneg yma'n gyson fel bod y plentyn yn ymgyfarwyddo â hi ac, yn y pen draw, yn dechrau gwneud penderfyniadau o ran pa wobr yr hoffai wedi iddo gwblhau tasg. 

Os ydych chi'n poeni am emosiynau eich plentyn, cysylltwch â'ch Ymwelydd Iechyd neu drefnu apwyntiad gyda'ch Meddyg Teulu. 

Tudalennau yn yr Adran Hon