Derbyn addysg yn y cartref

Derbyn addysg yn y cartref yw pan rwyt ti o oedran ysgol statudol ond ddim yn mynd i'r ysgol. Rwyt ti'n derbyn dy addysg rhywle arall, fel arfer yn dy gartref gan dy rieni/gwarcheidwaid neu diwtor. 

Rwyt ti o oedran ysgol statudol o'r tymor ysgol ar ôl i ti droi'n 5 mlwydd oes hyd at ddiwedd y flwyddyn ysgol ar ôl i ti droi'n 16 oed (Blwyddyn 1 hyd at Flwyddyn 11). 

Bydd dy riant/gwarcheidwaid yn gyfrifol am dy addysg - mae modd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf roi cymorth i ti a rhannu manylion grwpiau cymorth yn dy ardal leol. Os wyt ti mewn ysgol arbennig, bydd dy riant/gwarcheidwaid wedyn gofyn am ganiatâd yr awdurdod lleol i dy addysgu di yn y cartref. 

Mae gan RCT bolisi addysg ddewisol yn y cartref - bwria olwg arno am ragor o wybodaeth. 

Os wyt ti'n poeni am dderbyn addysg yn y cartref, siarada ag athro os wyt ti dal yn yr ysgol, aelod teulu neu ffrind rwyt ti'n ymddiried ynddo. Gall siarad leddfu unrhyw bryderon sydd gennyt ti. Os nad wyt ti am siarad â rhywun, rho gynnig ar ysgrifennu llythyr yn mynegi dy bryderon. Cynllunia’r hyn rwyt ti am ei ddweud ac ystyria’r hyn hoffet ti ei weld yn digwydd nesaf. Er enghraifft: 

  • Beth yw'r broblem 
  • Sut mae'n gwneud i ti deimlo 
  • Er pryd mae'r broblem wedi codi/rwyt ti wedi teimlo fel hyn 
  • Pa gymorth yr hoffet ti 
  • Beth hoffet ti ei weld yn digwydd nesaf