Hyfforddiant

Mae dewis yr hyfforddiant neu'r cwrs cywir yn gallu bod yn ddryslyd. 

Mae gan Gyrfa Cymru gyngor ar ddewis cyrsiau ac opsiynau pwnc yn ogystal â gwybodaeth am y gwahanol gymwysterau sydd ar gael. Mae ganddo hefyd adnodd chwilio am gwrs i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r cwrs cywir i chi. 

Gall Cymunedau am Waith hefyd eich helpu chi i fanteisio ar hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae modd i’r sefydliad hefyd eich helpu chi i ennill cymwysterau penodol fel Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS), Goruchwyliwr Drws (SIA), Hylendid Bwyd a Thrin Gwallt. 

Os ydych chi'n teimlo bod rhwystrau'n eich atal chi rhag manteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, efallai bydd y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn gallu helpu trwy roi cymorth un-wrth-un i chi.

Os oes angen i chi wella'ch sgiliau TGCh, mae modd i chi gadw lle ar sesiwn Dydd Gwener Digidol gyda Chyngor RhCT.