Gwaith

Gall fod yn anodd iawn dewis gyrfa. Efallai eich bod chi newydd adael yr ysgol neu addysg uwch, yn chwilio am yrfa newydd, wedi colli'ch swydd neu'n ddi-waith. Beth bynnag yw'r rheswm, mae dechrau chwilio am swydd yn gallu bod yn gyfnod pryderus. Mae llawer o bethau i'w hystyried megis: 

Cymorth ariannol i'r sawl sy'n ceisio gwaith
Buddion
Cyngor gyrfaoedd a dod o hyd i'r swydd iawn i chi
Sut i chwilio am swyddi a phrentisiaethau
Llunio CV a hyfforddi ar gyfer cyfweliad
Problemau a hawliau yn y gwaith
Cymorth pellach

Cymorth ariannol i'r sawl sy'n ceisio gwaith

Mae modd gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) pan fyddwch chi'n chwilio am waith, a bydd gwefan gov.uk yn eich helpu chi i wirio a ydych chi'n gymwys, ac yn dweud wrthoch chi sut i wneud cais. 

Efallai y bydd modd i chi gael cael cymorth ariannol fel talebau dillad, gofal plant neu deithio i fynd i gyfweliadau. Bydd Cymunedau am Waith yn rhoi rhywfaint o gyngor i chi. 

Buddion

Os ydych chi'n ddi-waith, yn methu â gweithio, ar incwm isel neu angen help gyda’ch costau byw, efallai bod modd i chi hawlio Credyd Cynhwysol. Mae modd gwirio a ydych chi'n gymwys a chael gwybod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio ar wefan Gov.uk

Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael cymorth gyda rhent a threth cyngor neu fudd-daliadau eraill. Edrychwch ar wefan budd-daliadau Cyngor Rhondda Cynon Taf am ragor o wybodaeth. 

Mae Cyngor ar Bopeth RhCT (CARCT) yn cynnig cyngor didduedd am ddim ynghyd â gwybodaeth ar-lein a chyfrifiannell budd-daliadau ar-lein. 

Cyngor Gyrfa a Dod o Hyd i'r Swydd Iawn i Chi

Mae Gyrfa Cymru yn rhoi cyngor am ddim i unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch ei addysg neu'i gyflogaeth. 

Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth, mae Carfan Materion Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant RhCT wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth at ei gilydd i chi. 

Mae modd i ffeiriau gyrfaoedd eich helpu i siarad â chyflogwyr a darganfod beth sydd ar gael yn eich ardal. Efallai bydd modd i Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant RhCT roi gwybod i chi pan fydd un yn eich ardal chi. Anfonwch e-bost at y garfan: eett@rctcbc.gov.uk. Efallai y byddai'n ddefnyddiol mynd â'ch CV gyda chi! 

Mae Gyrfa Cymru hefyd yn cadw manylion am achlysuron cyfredol ar eu gwefan. 

Sut i Chwilio am Swyddi a Phrentisiaethau

Mae modd i'r Ganolfan Byd Gwaith helpu pobl dros 16 oed yn RhCT i ddod o hyd i swydd neu hyfforddiant â thâl. Mae modd ymweld â Chanolfan Waith leol heb apwyntiad. Ewch i'ch Canolfan Byd Gwaith agosaf a chwiliwch eu swyddi gwag presennol. 

Mae chwilio am swyddi ar-lein yn hawdd iawn. Gallwch hefyd ddefnyddio Gov.uk i chwilio am swyddi gwag yn eich ardal chi 

Defnyddiwch wefan Gyrfa Cymru i chwilio am brentisiaethau yn RhCT. Mae Cyngor RhCT hefyd yn cynnig rhaglenni prentisiaeth a graddedigion

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig amrywiaeth eang o rolau a gyrfaoedd a'r adnodd i chi chwilio ar-lein

CV a Hyfforddi ar gyfer Cyfweliad

Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cyfweliadau a datganiadau personol. 

Mae cwestiynau sy'n seiliedig ar gymhwysedd yn boblogaidd iawn ar gyfer ceisiadau a chyfweliadau. Rhowch gynnig ar ymarfer y rhain gan ddefnyddio'r dechneg S.T.A.R. (Sefyllfa, Tasg, Gweithredu, Canlyniad). Mae YEPS yn cynnig rhai awgrymiadau ac arweiniad ar y dechneg. 

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth ar ysgrifennu CVs a phroffiliau personol, gan gynnwys CVs enghreifftiol. 

Problemau a Hawliau yn y Gwaith

Pe bai problemau'n codi yn y gwaith, mae gan Gyngor ar Bopeth lawer o wybodaeth i'ch helpu chi.  

Cymorth Pellach

Mae modd i'r asiantaethau canlynol eich helpu i ddod o hyd i waith neu helpu gyda phroblemau yn y gwaith ar sail un-wrth-un: