Eich corff chi

Os wyt ti, neu unrhyw un o’th gwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Clicia yma i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng. 

Mae nifer o wasanaethau yn RhCT sy'n gallu rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifainc o bob oed. Yn y rhestr yma cei ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnat ti: 

Chwaraeon ac Ymarfer Corff 


Mae gan Childline gyngor a chanllawiau ardderchog ar y pynciau canlynol: 

  • Cadw'n heini ac iach. 
  • Sut i gael diet cytbwys iach. 

Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau a all helpu yn dy ardal di. Mae modd i ti weld rhestr o'r holl wasanaethau a all dy helpu di i ymarfer corff a chymryd rhan mewn chwaraeon yn RhCT. 

Deall Ein Cyrff 

Wrth i ti fynd yn hŷn efallai y byddi di'n sylwi ar dy gorff yn newid wrth i ti dyfu. Mae corff pawb yn newid ac mae hyn yn gwbl normal ond os wyt ti'n teimlo'n bryderus neu os oes unrhyw gwestiynau gyda ti, dyma rai dolenni gwych i’th helpu. 

Mae gan Childline gyngor gwych i’th helpu i ddeall unrhyw beth sy'n dy boeni di yn ymwneud â’th gorff, fel: 

  • Newidiadau i'r corff 
  • Sut rwyt ti'n edrych 
  • Teimlo'n wahanol 
  • Pobl sy'n dweud pethau cas 

Bod ag anabledd neu fod yn sâl 

Mae’n bosibl y bydd gan rai plant anabledd neu salwch sy’n golygu bod angen rhywfaint o help ychwanegol arnyn nhw ar adegau. Dyma awgrymiadau a chyngor gwych i ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda ti. 

Mae tudalennau gwych ar wefan Childline a all helpu plant sy'n anabl neu sydd â salwch sy'n golygu y gallai fod angen help ychwanegol arnyn nhw ar adegau. 

Tudalennau yn yr Adran Hon