Meddyliau a Theimladau

Os wyt ti, neu unrhyw un o'th gwmpas wedi brifo, yn ddifrifol wael neu mewn perygl, ffonia 999 ar unwaith. Clicia yma i ddysgu beth i'w wneud mewn argyfwng. 

Efallai dy fod di wedi clywed pobl yn siarad am iechyd meddwl. Mae hyn yn bwysig iawn i bob un ohonon ni ac mae'n golygu sut rwyt ti'n teimlo ar unrhyw adeg. Efallai y byddi di'n teimlo'n hapus, yn gyffrous, yn drist, yn bryderus neu'n grac ac mae'r rhain i gyd yn gwbl normal! 

Dydy iechyd meddwl da ddim yn golygu y byddi di'n teimlo'n hapus drwy'r amser. Mae modd i bethau ddigwydd i bob un ohonon ni sy'n gwneud i ni deimlo'n bryderus ac yn drist hefyd ac mae hyn yn iawn. Ond os yw'r meddyliau neu'r teimladau yma'n para am amser hir neu os wyt ti'n teimlo nad wyt ti'n gallu ymdopi â nhw, mae'n bryd ceisio help.  

Rydyn ni wedi dod â dolenni defnyddiol ynghyd isod i'th helpu di gyda hyn: 

Mae gan Eye to Eye wasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim. Mae modd i hyn ddigwydd yn yr ysgol, yn dy ardal leol neu ar-lein. 

Mae gan Childline gyngor a chanllawiau ardderchog ar y pynciau canlynol:  

  • Delio â theimladau ac emosiynau 
  • Ymdopi â phryder, straen a phanig 
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl 
  • Meddyliau am hunanladdiad a hunan-niwed 
  • Problemau bwyta 
  • Hunaniaeth rywiol a rhywedd 
  • Magu hyder a hunan-barch 
  • Gofyn am help 

Mae DEWIS yn gronfa ddata o'r holl wasanaethau a all helpu yn dy ardal di. Cei di weld rhestr o'r holl wasanaethau a all helpu dy iechyd meddwl a'th les yn RhCT yma. 

Tudalennau yn yr Adran Hon