Helpu â Chwsg Pobl Ifainc

Helping Teenagers Sleep

Mae cwsg yn bwysig i bawb. Fodd bynnag, mae mynd i gysgu yn peri mwy o drafferth i bobl ifainc. Bwriwch olwg ar yr awgrymiadau yma er mwyn helpu eich person ifanc i gael noson dda o gwsg. 

  1. Cadw at amserlen - mae mynd i'r gwely a chodi o'r gwely yr un amser bob dydd yn allweddol i gael cwsg o ansawdd. Hyd yn oed ar benwythnosau.   
  2. Arferion cyn mynd i'r gwely - does dim rhaid cael arferion cymhleth ond mae cael trefn gyson yn addysgu'r ymennydd ei bod hi'n amser mynd i gysgu. Awgrymwch gawod neu fath cyn mynd i'r gwely.   
  3. Osgoi caffîn - mae coffi a diodydd egni yn ysgogi'r ymennydd ac yn cadw pobl ar ddihun. Ceisiwch osgoi unrhyw fwyd neu ddiod sy'n cynnwys caffîn ar ôl amser cinio.   
  4. Paratowch eich man cysgu - dylai ystafell wely fod yn eithaf oer, yn dywyll ac yn dawel er mwyn cael noson dda o gwsg. Rhowch gynnig ar ddefnyddio ffan a/neu lenni trwchus ac ystyriwch ddefnyddio plygiau clust.   
  5. Gwrandewch ar deunyddiau hypnosis neu fyfyrdod - mae diffodd ein hymennydd cyn mynd i gysgu yn heriol. Awgrymwch wrando ar ddeunyddiau hypnosis cysgu a myfyrdod wrth geisio mynd i gysgu.   
  6. Osgowch dechnoleg - efallai byddwch chi'n cael trafferth gwneud hyn ond bydd osgoi technoleg am awr cyn mynd i'r gwely yn bendant yn gwella ansawdd eich cwsg. Mae hyn yn cynnwys osgoi eich ffôn symudol. 

Dolenni Defnyddiol