Eich corff chi

Os ydych chi, neu unrhyw un o'ch amgylch chi wedi brifo, yn sâl neu mewn perygl, ffoniwch 999 yn syth. Dilynwch y ddolen yma am ragor o wybodaeth am beth i'w wneud mewn argyfwng.

Mae nifer o wasanaethau yn RhCT yn cynnig cyngor ac yn cefnogi plant a phobl ifainc hyd at 25 oed. Rydyn ni wedi creu rhestr fel bod modd i chi benderfynu pa wasanaeth sydd orau i chi.

Chwaraeon ac ymarfer corff 
Hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb
Rhyw a pherthnasoedd 
Delwedd y corff 
Iechyd y corff 

Chwaraeon ac ymarfer corff

Mae codi a chrwydro yn cadw eich corff chi'n iach ac yn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol wrth i chi gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd.

Rydyn ni wedi cronni rhai syniadau am bethau i'w gwneud yn RhCT.
 
Mae gan Childline gyngor ac arweiniad arbennig ar y materion canlynol: 

  • Cadw'n ffit ac yn iach 
  • Straen o ganlyniad i chwaraeon ac ymarfer corff  

Cronfa ddata yw DEWIS yn llawn gwasanaethau defnyddiol yn eich ardal leol. 

Mae modd cael mynediad at restr o wasanaethau sydd ar gael i'ch helpu chi i wneud ymarfer corff a chymryd rhan mewn chwaraeon yn RhCT

Hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb 

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS)

Mae gan Childline gyngor ac arweiniad arbennig ar y materion canlynol:
* Hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb 

Mae gan y GIG gyngor a chymorth o ran iechyd meddwl ar gyfer y gymuned LHDTQ+

Mae Stonewall Cymru yn cynnig cyngor ar ystod o faterion sy'n ymwneud â'r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol megis:  

  • Cydraddoldeb 
  • Dod allan 
  • Trawsnewid 
  • Gweithleoedd cynhwysol 
  • Ysgol 

Cronfa ddata yw DEWIS yn llawn gwasanaethau defnyddiol yn eich ardal leol. Mae modd cael mynediad at restr o wasanaethau sydd ar gael i'r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yn RhCT. 


Rhyw a pherthnasoedd

Mae gan y Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid gyngor defnyddiol yn ymwneud â rhyw gan gynnwys: 

  • Iechyd rhywiol a dulliau atal cenhedlu 
  • Camdrin domestig a rhywiol 

Mae gan Childline gyngor defnyddiol yn ymwneud â'r materion canlynol: 

  • Rhyw a chydsynio 
  • Rhyw diogel 
  • Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol 
  • Beichiogrwydd 
  • Rhoi eich plant i gael eu mabwysiadu 
  • Erthyliad 
  • Secstio ac anfon lluniau noeth 
  • Meithrin perthynas amhriodol ar-lein 
  • Ymdopi â straen 
  • Dechrau perthynas a gorffen perthynas 
  • Perthnasoedd iach 

Mae gan Heddlu De Cymru wybodaeth hanfodol ar nodi, ymateb a rhoi gwybod am droseddau. 

Mae hefyd ganddyn nhw wybodaeth am ddeall y gyfraith megis: 

  • Cam-drin Plant 
  • Magu/meithrin perthynas amhriodol 
  • Priodas dan orfod 
  • Anffurfio organau cenhedlu 

Cronfa ddata yw DEWIS yn llawn gwasanaethau defnyddiol yn eich ardal leol. 

Mae modd cael mynediad at restr o wasanaethau yn RhCT i gefnogi iechyd rhywiol a pherthnasoedd. 

Delwedd y corff

Mae gan Childline gyngor defnyddiol yn ymwneud â'r materion canlynol: 

  • Teimlo'n dda am eich gwedd 
  • Bwlio 
  • Hunaniaeth 
  • Magu hyder a hunan-barch 
  • Bwyta 

Mae gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wybodaeth am adnabod a mynd i'r afael ag anhwylderau bwyta. 

Cronfa ddata yw DEWIS yn llawn gwasanaethau defnyddiol yn eich ardal leol. 

Iechyd y corff

Mae gan Childline gyngor defnyddiol yn ymwneud â'r materion canlynol: 

  • Cadw'n iach 
  • Diet cytbwys 
  • Poeni am eich pwysau 

Mae modd i Gyngor ar Bopeth yn RhCT eich helpu chi â'r materion canlynol: 

  • Y Coronafeirws  
  • Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol 
  • Gwneud cwyn 

Cronfa ddata yw DEWIS yn llawn gwasanaethau defnyddiol yn eich ardal leol. 

Tudalennau yn yr Adran Hon