Potel Synhwyraidd â Llwch Llachar

Mae'n hawdd gwneud potel synhwyraidd â llwch llachar gan ddefnyddio eitemau cartref wedi'u hailgylchu. I wneud y botel yn fwy diddorol i'ch plentyn beth am ychwanegu pethau maen nhw'n eu hoffi? 

Er enghraifft, gallech chi ddefnyddio lliw bwyd glas a llwch llachar glas i greu cefnfor.

Bydd y gweithgaredd yma'n helpu i dawelu eich plentyn os yw wedi mynd yn ofidus neu'n cynhyrfu. Bydd canolbwyntio ar symudiad llonyddol y llwch llachar wrth ysgwyd neu droi'r botel yn ei ddwylo yn helpu eich plentyn. 

Gweithgaredd

Dyma weithgaredd syml, rhad i chi ei wneud gartref. 

Dyma beth fydd ei angen arnoch chi ar gyfer y gweithgaredd: 

  • Potel ddŵr blastig lân a gwag gyda'r label wedi'i thynnu 
  • Dŵr cynnes 
  • Llwch llachar 
  • Hylif lliwio bwyd 
  • Twmffat 
  • Olew coginio 

Potel llwch llachar

  • Rhowch ddŵr cynnes yn y botel wag nes ei fod tua thri chwarter yn llawn ac ychwanegwch ychydig ddiferion o olew.
  • Yna, ychwanegwch ychydig ddiferion o liw bwyd ac ysgeintio'r llwch llachar i mewn.
  • Rhowch y caead ar y botel ddŵr a'i ysgwyd i gymysgu'r cynhwysion.
  • Unwaith y byddwch chi'n hapus gyda’i olwg, llenwch y botel â dŵr nes ei fod yn llawn dop. Rhowch y caead yn ôl ymlaen yn dynn!