Recriwtio Gwarchodwyr Plant

Ydyh Chi Wedi Ystried Gyrfa Ym Maes Gwarchod Plant?

Dyma yrfa hyblyg sy'n rhoi boddhad

Beth Yw Gwarchodwr Plant?

Fel gwarchodwr plant, rydych chi'n gweithio yn eich cartref eich hun, yn gofalu am blant pobl eraill. Os ydych chi'n mwynhau gofalu am blant ac yn teimlo bod modd i chi gefnogi'u datblygiad parhaus, mae'n bosibl mai dyma'r yrfa ddelfrydol i chi.

Ai Dyma'r Yrfa FwyafF Addas I Fi?

I fod yn warchodwr plant llwyddiannus, bydd y rhinweddau canlynol yn eich helpu ar eich taith tuag at yrfa lwyddiannus:

  • Bod yn hyblyg
  • Gallu addasu
  • Mwynhau gweithio â phlant
  • Wedi ymrwymo i roi gofal o safon
  • Yn frwdfrydig i redeg eich busnes eich hun
  • Yn credu bod pob plentyn yn haeddu profiadau o'r safon orau a dechrau da mewn bywyd
  • Yn frwdfrydig am ddatblygiad plant ac yn cynnig cymorth i blant a'u teuluoedd
Pwy Ydyn Ni?

Mae Carfan Gofal Plant RhCT yn cefnogi'r sector gofal plant cyffredinol ledled y fwrdeistref. Mae ein carfan yn cynnwys Swyddog Datblygu Gofal Plant a dau Gynorthwy-ydd Datblygu Materion Busnes Gofal Plant.

Dyma'r Hyn Y Gallai Carfan Gofal Plant RHCT Ei Gynnig I Chi I Ddechrau'ch Gyrfa Mewn Gwarchod Plant

Mae'r Garfan Gofal Plant yn rhoi cymorth i leoliadau gofal plant cyffredinol ledled RhCT. Mae ein cymorth yn cynnwys:

  • Cynllunio busnes a datblygu lleoliadau
  • Grantiau
  • Recriwtio gwarchodwyr plant
  • Hyfforddiant wedi'i ariannu
  • Cymorth i gofrestru ag AGC
  • Cyngor a chymorth parhaus
  • A llawer yn rhagor

Sut I Gysylltu  Ni
Ffôn: 01443 570048
E-bost: CarfanGofalPlant@rctcbc.gov.uk


Mae Rhagor O Wybodaeth Ar:

Ein gwefan: Gofal Plant | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Os ydych chi eisoes yn ddarparwr gofal plant cofrestredig gyda'n carfan, mae modd i chi ymuno â'n grŵp Facebook preifat yma - Carfan Gofal Plant RhCT | Facebook

Tudalennau yn yr Adran Hon