Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio am ddim i bob rhiant, cynhaliwr a gwarcheidwad yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am ddiweddaru a chynnal cyfeiriadur DEWIS ar gyfer Rhondda Cynon Taf ac yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gywir ac yn gyfoes.
I aelodau'r cyhoedd, mae gan y gwasanaeth wybodaeth ddefnyddiol a chyfoes ar ystod eang o faterion megis:
- Archwilio opsiynau gofal plant
- Achlysuron a gweithgareddau
- Cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau
- Cyngor a chanllawiau i rieni newydd
- Grwpiau i fabanod
- Gweithgareddau allgyrsiol i blant ysgol
- Gwybodaeth ar gyfer y rhai sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn gofal plant neu weithio gyda phlant a phobl ifainc.