Gwirfoddoli

volunteering_optimised

Mae modd i wirfoddoli roi boddhad mawr i oedolion a phobl ifainc yn eu harddegau. Mae gwybod eich bod chi wedi helpu eraill yn gallu teimlo'n dda, sy'n wych i'ch iechyd meddwl. Mae hefyd modd iddo fe fod yn dda o ran eich iechyd corfforol a helpu i wella sgiliau cymdeithasol. Mae gwirfoddoli'n edrych yn wych ar CV neu gais am swydd, gan ei fod e'n dangos penderfyniad a'r parodrwydd i weithio.

Mae modd i chi ddarganfod mwy am hawliau gwirfoddolwyr a phryd y mae modd i chi wirfoddoli ar wefan gov.uk

Am wybodaeth ar sut i wirfoddoli'n ddiogel, ewch i wefan Volunteering Matters

Mae gan Gyrfa Cymru gyngor gwych ar sut i ddod yn wirfoddolwr a'r sefydliadau sydd o bosibl yn mynd i fod â chyfle gwirfoddoli i chi. 

Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli yn RhCT: 

  • Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ymgysylltu â phobl ifanc 11–25 oed yn RhCT i wella eu cydnerthedd a'u grymuso i gyfrannu at y cymunedau lle maen nhw'n byw. Mae modd i chi gael gwybodaeth am eu cyfleoedd gwirfoddoli ar eu gwefan. 
  • Mae Chwaraeon RCT yn hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli ar eu gwefan nhw. 
  • Mae modd i Gymunedau am Waith roi cymorth i chi i fanteisio ar leoliadau gwirfoddoli sy'n addas i chi. 

Tudalennau yn yr Adran Hon