Gofal Plant Dechrau'n Deg

Pwy ydyn ni?

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ydy Dechrau'n Deg ar gyfer teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. 

Mae elfen gofal plant Dechrau’n Deg yn cynnig gofal plant rhan amser am ddim i deuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru pan fydd eu plant rhwng 2 a 3 oed.

Sut ydw i'n cael gwybod a ydw i'n gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg? 

Mae Gofal Plant Dechrau’n Deg yn seiliedig ar: 

  • ble rydych chi'n byw 
  • oed eich plentyn

Mae modd i chi wirio a yw eich cod post yn gymwys ar wefan Rhondda Cynon Taf:

Mae eich plentyn yn gymwys i ddechrau lleoliad a ariennir y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn ddwy oed.

Mae pen-blwydd y plentyn yn ddwy oed rhwng:Mae'r plentyn yn gymwys i ddechrau:
Medi - Rhagfyr Tymor Ionawr
Ionawr – Mawrth Tymor Ebrill
Ebrill - Awst Tymor Medi

 Mae’r peiriant gwirio cod post yn dweud fy mod i'n gymwys. Sut mae modd i fi fanteisio ar ofal plant a ariennir gan raglen Dechrau’n Deg?

Byddwn ni'n ysgrifennu at deuluoedd sy’n gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg pan fydd gyda nhw blentyn sy'n troi’n 18 mis oed. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi a ydych chi'n gymwys ac yn eich gwahodd chi i wneud cais am leoliad a ariennir. Mae modd i chi gysylltu â'ch Ymwelydd Iechyd os nad ydych chi wedi derbyn llythyr.  Os dydych chi mewn cysylltiad â'ch Ymwelydd Iechyd bellach, cysylltwch â ni.

Rydw i wedi dychwelyd fy ffurflen gais. Sut byddaf i'n cael gwybod eich bod chi wedi ei derbyn?

Bydd y rhiant/gwarcheidwad yn derbyn llythyr cadarnhau pan fydd y lleoliad wedi’i drefnu neu os nad yw’r plentyn yn gymwys am le wedi’i ariannu. Dydyn ni ddim yn anfon llythyrau cydnabod ar hyn o bryd.

Ble fydd lleoliad fy mhlentyn?

Bydd eich plentyn yn cael lleoliad mewn darpariaeth gofal plant gymeradwy o ansawdd uchel yn eich ardal leol. Bydd y lleoliad yn cael ei ddewis gan ein swyddogion ar sail nifer y lleoedd sydd ar gael. Does gan rieni/gwarcheidwaid ddim opsiwn i ddewis y ddarpariaeth sydd orau ganddyn nhw ar hyn o bryd.

Hoffwn i fy mhlentyn fynd i ysgol cyfrwng Cymraeg. Oes modd i ni gael mynediad i ddarpariaeth Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg?

Oes, mae gyda ni ddarpariaethau cyfrwng Cymraeg ledled Rhondda Cynon Taf. Mae modd i chi nodi'ch dewis iaith ar y ffurflen gais.

Rydw i wedi symud i ardal Dechrau'n Deg ac mae fy mhlentyn eisoes yn 2 flwydd oed. Sut mae modd gwneud cais?

Bydd eich ymwelydd iechyd yn rhoi'ch manylion i ni. Unwaith y bydd y rhain yn dod i law, byddwn ni'n cysylltu â chi i roi gwybod a ydych chi'n gymwys ac i'ch gwahodd i wneud cais am leoliad a ariennir.

Faint o oriau mae Dechrau'n Deg yn eu hariannu?

Mae Dechrau'n Deg yn ariannu 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Pryd bydd lleoliad Dechrau'n Deg fy mhlentyn yn dod i ben?

Bydd lleoliad eich plentyn yn dod i ben pan fydd yn gymwys am leoliad addysg, sy'n golygu y bydd modd i'ch plentyn fynychu tan ddiwedd y tymor y mae'n troi'n dair oed.

Beth sy'n digwydd ar ôl i leoliad Dechrau'n Deg fy mhlentyn ddod i ben?

Mae modd i chi wneud cais am leoliad addysg cyn-feithrin neu feithrin i ddechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed. Rhaid cyflwyno'r cais yma drwy'r Awdurdod Lleol. Rhaid i chi gyflwyno'r cais yma ymlaen llaw.

Mae pen-blwydd y plentyn yn dair oed rhwng:Dylech chi gyflwyno cais:Mae'r plentyn yn gymwys i ddechrau:Math o Gais:
Medi - Rhagfyr Medi Ionawr Cyn-feithrin
Ionawr – Mawrth Ionawr Ebrill Cyn-feithrin
Ebrill - Awst Medi (cyn i'r plentyn droi'n 3 oed) Medi Meithrin

 

Mae amserlenni llym ar gyfer cyflwyno cais. Ewch i wefan Rhondda Cynon Taf i gael gweld y dyddiadau ymgeisio presennol.

Os yw lleoliad addysg eich plentyn am 15 awr yr wythnos, mae'n bosibl y byddwch chi'n gymwys i wneud cais am 15 awr ychwanegol o ofal plant drwy’r Cynnig Gofal Plant 30 Awr.

Sut i gysylltu â ni

Ffôn: 01443 281437
E-bost: GofalPlantDechraunDeg@rctcbc.gov.uk