Cod Ymarfer Awtistiaeth

Welsh QR

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Pobl a Gwaith (elusen annibynnol) werthuso’r Cod Ymarfer Awtistiaeth a pha wahaniaeth y mae’n ei wneud i wasanaethau awtistiaeth Cymru a’r bobl sy’n eu defnyddio. Bwriad y Cod yw gwella a safoni gwasanaethau asesu, diagnostig a chymorth i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Mae rhagor o wybodaeth am y Cod Ymarfer ar Awtistiaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwerthuswyr yn siarad â darparwyr gwasanaethau ond mae angen i ni hefyd glywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau am eu profiadau a’u dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer ar Awtistiaeth. Fe'ch gwahoddir i gyfrannu at y gwerthusiad trwy lenwi holiadur. Mae rhagor o wybodaeth a hysbysiad preifatrwydd yn gysylltiedig â chyflwyniad yr holiadur er mwyn i chi allu gweld beth fydd yn digwydd i'ch gwybodaeth. Ni ofynnir i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion cyswllt.

Mae'r holiadur yn Gymraeg yma: https://www.smartsurvey.co.uk/s/3ARP4L/

NEU defnyddiwch y cod QR 

Wedi ei bostio ar 16/10/2024

Rhagor o newyddion