Cyngor Ysgol

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob plentyn oedran ysgol statudol gael mynediad i addysg, a bydd hwn fel arfer yn digwydd yn yr ysgol. Rwyt ti'n oedran ysgol statudol o’r tymor ar ôl dy ben-blwydd yn 5 oed hyd at ddiwedd y flwyddyn ysgol yn dilyn dy ben-blwydd yn 16 oed (Blwyddyn 1 i Flwyddyn 11). 

Mae ysgol yn rhan fawr o fywyd bob dydd. Yma, mae gyda ni ychydig o gyngor ar bob agwedd o fywyd ysgol a hefyd, mae modd i ni dy gyfeirio di at wasanaethau eraill sy'n cynnig cyngor.  Os wyt ti'n poeni am yr ysgol, dylet ti siarad ag athro, aelod o'r teulu neu ffrind rwyt ti'n ymddiried ynddo. O bosibl, bydd siarad yn gwneud i ti deimlo'n well ac efallai y bydd modd i'r bobl yma dy helpu di. Gall hyn fod yn anodd felly efallai y bydd yn haws i ti ysgrifennu dy bryderon mewn llythyr. Mae bob amser yn dda cynllunio'r hyn rwyt ti am ei ddweud yn gyntaf a meddwl am yr hyn hoffet ti i ddigwydd nesaf. Er enghraifft: 

  • Beth yn union sy'n bod?
  • Sut mae'n gwneud i ti deimlo?
  • Pa mor hir mae wedi bod yn digwydd? / Ers faint wyt ti wedi bod yn teimlo fel hyn?
  • Sut byddet ti'n hoffi i'r bobl yma dy helpu di? 
  • Beth fyddet ti'n hoffi i ddigwydd? 

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf lawer o wybodaeth am ei ysgolion ar-lein. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Presenoldeb Ysgol, Lles a Diogelu 
  • Dyddiadau tymhorau a chau ysgolion 
  • Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol 
  • Arlwyo a Phrydau Ysgol am Ddim 
  • Arweiniad a Chefnogaeth Cyfrwng Cymraeg 
  • Cludiant i'r ysgol 
  • Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion 
  • Cerddoriaeth 

Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) wybodaeth am ddewis opsiynau ym Mlwyddyn 9 a newid ysgol.

Os nad wyt ti'n mynd i'r ysgol yn rheolaidd, mae'n bosibl y bydd y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles (AWS) yn cysylltu â'th rieni neu warcheidwaid i gynnig cymorth i ti. Os oes gen ti broblemau sy’n effeithio ar dy bresenoldeb di, mae modd i’r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles dy helpu di, dy rieni neu dy warcheidwaid di a dy ysgol di i ddatrys y problemau yma. Mae croeso i ti hefyd gysylltu â nhw am gyngor. 

Os wyt ti'n Blentyn sy'n Derbyn Gofal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, bydd gen ti Gynllun Addysg Personol. Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar wefan yma

Mae gan Childline gyngor ac arweiniad ardderchog ar y pynciau canlynol: 

  • Gwaith cartref ac adolygu 
  • Straen arholiad 
  • Canlyniadau arholiadau 
  • Paratoi ar gyfer arholiadau 
  • Symud ysgol 
  • Gwaharddiad o'r ysgol 
  • Dyslecsia ac anawsterau dysgu 
  • Dy ddyfodol di 

Mae gan SNAP Cymru wybodaeth a chymorth ar y pynciau canlynol: 

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol 
  • Cael cymorth gan yr ysgol 
  • Cael cymorth gan yr awdurdod lleol 
  • Cael help gan wasanaethau iechyd 
  • Gwaharddiadau 
  • Lleoliad 
  • Gwahaniaethu 

Mae Meic yn wasanaeth eiriolaeth sy’n cael ei gynnig i bobl hyd at 25 oed yng Nghymru.

Mae Meic yn cynnig cymorth i dy helpu di i fynegi dy farn, a sefyll i fyny dros dy hawliau. 

Os wyt ti'n mynd i ysgol mewn awdurdod lleol arall, mae modd dod o hyd i wybodaeth yma: