Gemau Ar-lein

Mae yna gemau ar-lein hyfryd ar gael a fydd yn dy helpu di i ddysgu amdanat ti dy hun wrth i ti gael llawer o hwyl. Dyma rai gemau gan Childline i ti eu chwarae Ar-lein. 

Os wyt ti'n hoffi cwisiau a phosau, mae gan Stwnsh a CBBC ddigonedd i ti roi cynnig arnyn nhw! 

Os wyt ti'n chwilio am gemau addysgol, mae gan BBC Bitesize lawer i dy helpu di i ymarfer Mathemateg, Saesneg a phynciau eraill.

Os oes ffôn symudol gyda ti, wyt ti wedi rhoi cynnig ar Geogelcio? Mae modd i ti olrhain geogelciau yn dy ardal leol di (mae miliynau ohonyn nhw ledled y byd) gan ddefnyddio'r ap Geogelcio. Dysga ragor am Geogelcio trwy wylio'r fideo isod. 

 

Weithiau mae modd i bobl ifainc deimlo nad yw chwarae gemau yn hwyl mwyach, er enghraifft os ydyn nhw'n dy gadw di'n effro yn y nos. Mae modd i Childline dy helpu di i gadw gemau'n hwyl

Os wyt ti'n poeni am dy arferion chwarae dylet ti siarad â rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddo. 

Tudalennau yn yr Adran Hon